Dylunio gwefannau i bobl greadigol
a busnesau annibynnol

Wedi’u creu ar lwyfannau hawdd eu defnyddio fel Squarespace a Shopify.
Dwyieithog o’r cychwyn.

Canolfan Gelfyddydau Chapter
Angharad

Amdanaf

Angharad ydw i, dylunydd sydd ag 20 mlynedd o brofiad ym meysydd dylunio digidol, cynnwys a chyfarwyddo creadigol, gan gynnwys deng mlynedd yn creu cynnwys addysgol i BBC Learning. Sefydlais Mela yn 2015 i helpu pobl i droi eu syniadau’n wefannau sy’n adlewyrchu pwy ydyn nhw.

Detholiad o fy ngwaith

13 prosiect

Buddug

Sefydlu Shopify

Yn agor mewn tab newydd

Three Little Pigs Homestore

Dylunio gwefannau Shopify

Yn agor mewn tab newydd

Alaw

Dylunio gwefan ddwyieithog a brandio

Yn agor mewn tab newydd

The Canopi

Dylunio gwefannau Squarespace

Yn agor mewn tab newydd

Rachael Canning

Dylunio gwefannau Squarespace

Yn agor mewn tab newydd

Printed Festival

Dylunio gwefannau Squarespace

Yn agor mewn tab newydd

Ateb Cymru

Dylunio gwefannau Squarespace

Yn agor mewn tab newydd

Sain Cymru

Dylunio gwefannau Shopify

Yn agor mewn tab newydd

Popeth

Dylunio gwefannau Squarespace

Yn agor mewn tab newydd

Onnen Productions

Dylunio gwefannau Squarespace

Yn agor mewn tab newydd

Klust Music

Dylunio gwefannau Squarespace

Yn agor mewn tab newydd

Katie Chappell

Diwrnod tacluso Squarespace

Yn agor mewn tab newydd

Kailash Films

Dylunio gwefannau Squarespace a brandio

Yn agor mewn tab newydd

Gwasanaethau Dylunio Gwefannau

Oes angen gwefan gyflawn, pecyn brand neu amser penodol i fynd i’r afael â rhai tasgau? Mae sawl ffordd o weithio gyda fi.

Dechrau prosiect
Dylunio GwefannauDyluniad gwefan cyflawn, gyda strwythur clir, cymorth gyda chynnwys dwyieithog a gwefan y gallwch chi ei rheoli'n hyderus.
BrandioPecyn brand wedi'i ystyried yn ofalus i roi hunaniaeth glir a chyson i'ch busnes. Mae'n dod â'ch logo, eich lliwiau, eich teipograffeg a chanllawiau brand ymarferol at ei gilydd, er mwyn i chi allu cyflwyno'ch busnes yn hyderus ar eich gwefan a thu hwnt.
Sesiwn StiwdioSesiwn bwrpasol i fynd i'r afael â'r pethau sydd wedi bod yn aros ar restr tasgau eich gwefan ers tro. Perffaith ar gyfer adnewyddu tudalen, mân newidiadau dylunio, cynnwys newydd, datrys problemau Squarespace neu glirio rhestr o fân dasgau. Anfonwch eich blaenoriaethau ymlaen llaw ac fe wna i gymaint â phosibl yn ystod y sesiwn.
Diwrnod StiwdioAmser wedi'i neilltuo i wneud cynnydd go iawn ar eich gwefan. Delfrydol ar gyfer diweddariadau mwy, ailddylunio sawl tudalen, ychwanegu adrannau newydd neu roi gwedd newydd fwy sylweddol i wefan sy'n bodoli'n barod. Fe gytunwn ni ar y blaenoriaethau ymlaen llaw, fel bod yr amser yn cael ei dreulio lle bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Tystebau

Roedd gweithio gydag Angharad ar Ddiwrnod Tacluso Squarespace MOR DDA. Roedd popeth wedi'i drefnu'n wych ac yn rhedeg yn esmwyth o'r dechrau i'r diwedd, a gwnaethom gymaint yn ystod y dydd (mwy nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl!) Os oes angen rhoi trefn ar eich gwefan a'ch bod am wneud hynny'n gyflym a heb drafferth, cysylltwch ag Angharad. Bydd hi'n rhoi trefn ar bethau i chi!

Katie Chappell, Sylfaenydd a Darlunydd

Dechrau prosiect